Ynglŷn â Tirlun
Cyflwyniad
Mae Tirlun yn borth i ystod eang o brofiadau dysgu sy’n anelu at wreiddio dysgu yn yr awyr agored, mewn amrywiol ffurfiau. Mae pob un ohonynt yn cynnwys elfennau o weithio y tu allan, gan ddod â'r awyr agored yn ôl i'r ystafell ddosbarth.
Mae’r profiadau dysgu wedi’u cynllunio i gael eu defnyddio’n hyblyg, er mwyn cyfoethogi teithiau dysgwyr wrth gyflawni’r pedwar diben. Maent yn galluogi’r deuddeg egwyddor addysgegol i gyfoethogi profiadau dysgwyr ac yn rhoi llawer o gyfleoedd i ddysgwyr fod yn fwy metawybyddol, i gymryd cyfrifoldeb am eu dysg ac i weithio’n dda gydag eraill.
Mae'r profiadau wedi'u hisrannu'n ddau faes. Yn gyntaf, mae rhai sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio yn yr ysgol a'r ardal leol - y Gweithgareddau Allweddol. Yna, mae yna weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i fynd â dysgwyr o’u hysgol a’u hardal leol i Dirweddau Dynodedig Cymru.
Mae’r holl brofiadau dysgu yn drawsgwricwlaidd o ran eu natur ac yn cynnwys amryw o Feysydd Dysgu a Phrofiad. Maent wedi’u datblygu ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio o fewn camau Cynnydd 3 a 4.
Cyn dewis, byddai edrych ar y siart ehangder ar gyfer pob gweithgaredd yn galluogi gwell dealltwriaeth o'r ystod o gyfleoedd sydd efallai gan ddysgwyr i gael mynediad i'r Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Fodd bynnag, gallai dysgwyr gael cyfleoedd i gyrchu Meysydd Dysgu a Phrofiad a Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig eraill, yn enwedig os y caiff elfennau o bob gweithgaredd eu defnyddio’n hyblyg neu eu haddasu ar gyfer anghenion a diddordebau dysgwyr.
Gellir cyrchu’r Siartiau cwmpasu ar gyfer pob set o weithgareddau yn y:
- Gweithgareddau Allweddol
- Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr
- Tirwedd Cenedlaethol Llŷn
- Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy
Er enghraifft, mae’r Astudiaeth Achos, Sut gallwn ni ddatblygu llwybr? yn enghreifftio dull un ysgol o addasu Gweithgaredd Allweddol i’w ddefnyddio yn yr ardal leol, lle mae’r ffocws ar sgwteri trydan, sydd wedi dod yn rhan allweddol o uchelgais yr ysgol ar gyfer mwy o Deithio Egnïol. Datblygodd yr ysgol lwybrau o amgylch Tyddewi a chynhyrchu taflenni a phosteri, a gadwyd mewn llyfrgell leol. Gofynnwyd i bobl roi cynnig ar y llwybrau a rhoi adborth. Gweithredwyd ar yr adborth er mwyn gwella'r taflenni a'r llwybrau.
Mae’r holl brofiadau hyn yn canolbwyntio ar wella sgiliau datrys problemau, meddwl yn feirniadol, cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn greadigol ac ymchwil y dysgwyr. Maent hefyd wedi'u cynllunio i alluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd ym meysydd Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.
Nod y profiadau yw ysgogi chwilfrydedd dysgwyr, fel y byddant yn ymgysylltu’n well ac felly’n cael eu hysgogi fwyfwy i lwyddo. Mae’r profiadau’n canolbwyntio ar dasgau sy’n cynnwys cwestiynau ffocws, a allai fod yn sail i athrawon eu haddasu a’u hymestyn yn gwestiynu mwy Socrataidd, yn dibynnu ar anghenion a diddordebau dysgwyr.
Mae'r Astudiaeth Achos, Sut ydyn ni'n defnyddio egni? yn dangos sut y dechreuwyd archwilio egni a grymoedd mewn un ysgol. Fe ddilynon nhw amlinelliad y gweithgaredd, gan ddefnyddio'r cwestiynau ffocws, ond yna eu hymestyn i gyd-fynd â diddordebau a datblygiadau lleol. Bu’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn dadl ysgogol ynghylch cynlluniau ar gyfer fferm solar leol, a roddodd gyfle gwerthfawr i ddysgwyr bwyso a mesur manteision ac anfanteision datblygiad o’r fath yn lleol.
Gan fod cydweithio effeithiol yn allweddol i ddatblygu meddylwyr ar lefel uwch, mae’r profiadau’n rhoi cyfleoedd i barau neu grwpiau bach o ddysgwyr gydweithio i drafod y cwestiynau ffocws, datblygu eu syniadau eu hunain a phersonoli eu dysg.
Mae’r Astudiaeth Achos, Fforwyr ac Alldeithiau, yn dangos sut y bu i ddysgwyr weithio ar y cyd, gan ychwanegu eu tasgau eu hunain ar sail eu diddordebau, er mwyn creu thema tymor cyfan wedi’i hysbrydoli gan yr adnodd. Er enghraifft, wrth ystyried taith Syr Henry Morton Stanley yn Affrica, a’r rhwystrau a wynebodd wrth groesi afonydd yn y Congo, penderfynodd y dysgwyr ddylunio ac adeiladu eu pontydd eu hunain. Roedd cynnwys archwilwyr lleol a hyfforddwr personol yn gwneud y gweithgaredd yn un pwrpasol i’r dysgwyr ac yn rhoi cyfleoedd pellach iddynt ddatblygu cwestiynau o safon.
Mae pob gweithgaredd yn cynnwys Dolenni defnyddiol at ystod o wefannau a dolenni, a Deunyddiau ategol. Mae’r rhain yn cynnig dulliau y gellir eu defnyddio i gyfoethogi'r profiad dysgu.