CROESO I TIRLUN

Porth ar gyfer gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored yw Tirlun, sy’n arwain y dysgwyr o’u hysgol i’r ardal leol ac i mewn i Dirweddau Dynodedig Cymru a thu hwnt.

Gweithgareddau Allweddol

Mae’r gweithgareddau allweddol wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio ble bynnag yr ydych. Gellir cyrchu gweithgareddau eraill sy’n ymwneud â phob Tirwedd Ddynodedig, o’r map.

TIRWEDDAU DYNODEDIG CYMRU

Dewiswch un o’r Parciau Cenedlaethol neu un o’r Tirweddau Cenedlaethol er mwyn archwilio’r Dirwedd Ddynodedig hon, darllen astudiaethau achos a chyrchu gweithgareddau.

TIRWEDDAU DYNODEDIG CYMRU

PWYSIGRWYDD TIRWEDDAU DYNODEDIG

Mae Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol yn cynnwys rhai o’r ardaloedd cefn gwlad mwyaf prydferth, ysblennydd a dramatig yng Nghymru. Mae miliynau o ymwelwyr yn mwynhau eu rhinweddau arbennig bob blwyddyn.

A YDY’R TIRWEDDAU DYNODEDIG YN NEWYDD I CHI?

Os ydy’r Tirweddau Dynodedig yn newydd i chi, beth am roi cynnig ar y gweithgaredd hwn, a fydd yn eich helpu i ddysgu mwy amdanynt?