Ynglŷn â Gweithgareddau
Cyflwyniad i’r gweithgareddau
Nod y gweithgareddau yw gwreiddio dysgu yn yr awyr agored, yn ei amrywiol ffurfiau, mewn profiadau dysgu sy’n seiliedig ar y cwricwlwm. Mae elfennau o weithio y tu allan a dod â'r awyr agored yn ôl i'r ystafell ddosbarth, ym mhob un o’r gweithgareddau.
Mae'r Gweithgareddau Allweddol wedi'u datblygu ar gyfer eu defnyddio yn yr ysgol a'r ardal leol. Mae gweithgareddau pellach, y gellir eu cyrchu o bob tudalen Tirweddau Dynodedig, yn mynd â dysgwyr o’u hysgol a’u hardal leol i Dirweddau Dynodedig Cymru.
Mae’r holl weithgareddau yn drawsgwricwlaidd o ran eu natur, ac yn cynnwys amryw o Feysydd Dysgu a Phrofiad. Maent wedi’u datblygu ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio o fewn camau Cynnydd 3 a 4, ac felly gellid eu defnyddio fel gweithgareddau pontio. Mae Siartiau cwmpasu ar gyfer y gweithgareddau yn manylu ar y cyfleoedd sydd i ddysgwyr gael mynediad at y Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, sy'n berthnasol ar gyfer y camau cynnydd hyn. Fodd bynnag, gallai dysgwyr gael cyfleoedd i gael mynediad at Feysydd Dysgu a Phrofiad a Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig eraill, yn enwedig os caiff elfennau o bob gweithgaredd eu hymestyn a/neu eu defnyddio’n hyblyg.
Gellir cyrchu’r Siartiau cwmpasu ar gyfer pob set o weithgareddau yn y:
- Gweithgareddau Allweddol
- Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- Parc Cenedlaethol Eryri
- Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr
- Tirwedd Cenedlaethol Llŷn
- Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy
Gellir dod o hyd i'r Siart cwmpasu ar gyfer pob gweithgaredd, ynghyd â'r Nodiadau Athrawon, ar y dudalen gweithgaredd perthnasol.
Mae’r holl weithgareddau’n canolbwyntio ar wella sgiliau datrys problemau, meddwl yn feirniadol, cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn greadigol ac ymchwil y dysgwyr. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr fod yn fetawybyddol, i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain a gweithio'n dda gydag eraill, yn ogystal â gallu gwreiddio eu sgiliau trawsgwricwlaidd mewn Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol. Mae'r dull hwn yn galluogi dysgwyr i gyflawni pedwar diben Cwricwlwm i Gymru.
Nod y gweithgareddau yw ysgogi chwilfrydedd dysgwyr, fel y byddant yn ymgysylltu’n well ac felly’n cael eu hysgogi fwyfwy i lwyddo. Maent yn seiliedig ar gwestiynu, oherwydd dyma’r grym sydd y tu ôl i wella meddwl lefel uwch dysgwyr, gyda chwestiynau o ansawdd uchel yn arwain at siarad o ansawdd uchel. P’un ai’r athro neu’r dysgwr sy’n gofyn y cwestiynau, dylent fod yn benagored lle bynnag y bo modd, gan arwain at drafodaeth. Felly, mae'r holl weithgareddau wedi'u cynllunio o amgylch cyfres o dasgau sy’n cynnwys cwestiynau ffocws ar gyfer y dysgwyr, er mwyn eu harwain drwy'r dasg.
Gan fod cydweithio effeithiol yn allweddol i ddatblygu meddylwyr ar lefel uwch, mae'r gweithgareddau'n annog parau neu grwpiau bach o ddysgwyr i gydweithio, er mwyn trafod ac ateb y cwestiynau a ofynnir.
Rhaid cael mynediad i'r rhyngrwyd wrth wneud y gweithgareddau, a byddai sicrhau hyn ar gyfer parau neu grwpiau bach o ddysgwyr yn ddelfrydol. Fodd bynnag, gallai athrawon ddefnyddio Tirlun ar fwrdd gwyn, cyn belled â bod dysgwyr yn cael cyfleoedd ar gyfer gwneud ymchwil unigol a gwella eu cymhwysedd digidol lle bo hynny’n berthnasol. Hefyd, gellir argraffu pob sgrîn fel pdf, ar gyfer eu defnyddio yn y modd all-lein neu ar bapur ar gyfer eu defnyddio yn yr awyr agored.