Pwysigrwydd Tirweddau Dynodedig
PWYSIGRWYDD TIRWEDDAU DYNODEDIG
Yn ein tirweddau dynodedig, ceir rhai o’r ardaloedd cefn gwlad gorau ym Mhrydain ar gyfer cerdded, beicio, gwylio bywyd gwyllt a safleoedd awyr dywyll lle gallwch weld y Llwybr Llaethog â’ch llygad noeth. Hefyd, mae cyfleoedd gwych yma i archwilio ogofâu, canŵio, hwylio a physgota. Gan amrywio o lonydd tawel, coetiroedd hynafol, pentrefi nodedig a deniadol, i weirgloddiau llawn blodau, parcdir hanesyddol, rhostiroedd gwyllt, arfordiroedd dramatig a llawer mwy, mae’r cyfan oll ar gael yn ein Tirweddau Cenedlaethol a’n Parciau Cenedlaethol.
Mae Tirweddau Cymru yn bartneriaeth sy’n cynnwys y tirweddau dynodedig yng Nghymru, sef tri Parc Cenedlaethol a phum Tirwedd Cenedlaethol. Maent yn gweithio ar y cyd er mwyn mynd i’r afael â heriau allweddol, gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau ym myd natur.
Diffinnir Parciau Cenedlaethol fel darnau sylweddol o dir, sydd weithiau’n anghysbell, ac sy’n cynnwys mannau agored eang sy'n ddigon mawr i ddarparu cyfleoedd hamdden yn yr awyr agored i'r cyhoedd. Mae Parciau Cenedlaethol wedi'u dynodi oherwydd ansawdd eu tirwedd, eu bywyd gwyllt a'u gwerthoedd megis adnodd hamdden.
Crëwyd Parciau Cenedlaethol fel rhan o’r broses ailsefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Wedi’u sbarduno gan yr awydd cynyddol i bawb gael mynediad i gefn gwlad, crëwyd Parciau Cenedlaethol er mwyn dod â gwarchodaeth hirdymor i ardaloedd hardd yng nghefn gwlad a werthfawrogwyd yn fawr oherwydd eu bod yn darparu adfywiad corfforol ac ysbrydol.
Mae dau ddiben i Barciau Cenedlaethol:
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol.
- Hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau.
Pwrpas Tirweddau Cenedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch yr ardal. Maent yn fwy na lleoedd prydferth yn unig; maen nhw’n gymunedau byw sy’n bwydo’r genedl, yn gwarchod natur a hinsawdd, ac yn darparu cyfleoedd i bawb eu mwynhau.
Nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer tirweddau dynodedig* yw:
- Lleoedd Gwerthfawr - estyn allan y tu hwnt i gynulleidfaoedd traddodiadol ac ymgysylltu â thrawstoriad mwy amrywiol o gymdeithas Cymru, fel bod ganddynt ran yn y tirweddau cenedlaethol hyn.
- Amgylcheddau Cydnerth - lle mae gwerth natur yn cael ei wella a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cael ei wrthdroi.
- Cymunedau Cydnerth - mae'r berthynas rhwng pobl a'r amgylchedd wedi llunio'r tirweddau hyn a'u cymunedau. Mae angen inni ddatblygu a chefnogi cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a darparu cyfleusterau ar gyfer hamddena yn yr awyr agored.
- Ffyrdd Cydnerth o Weithio - lle mae dulliau o weithio ar y cyd yn gwneud y mwyaf o'r buddion ac yn mynd i'r afael â'r heriau a wynebir yn y tirweddau hyn.