Tirwedd Cenedlaethol Llŷn

Tirwedd Cenedlaethol Llŷn

Mae Penrhyn Llŷn yn ardal arfordirol hardd, lle ceir traethau tywodlyd, cilfachau ac ogofau dirgel, porthladdoedd bychain hanesyddol ac ynysoedd hudolus. Mae’r rhan helaeth o arfordir y Tirwedd Cenedlaethol o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau – sy’n cynnwys amrywiaeth eang o wahanol gynefinoedd a rhywogaethau morol. O fewn yr ardal hon mae bryniau a mynyddoedd trawiadol sydd â golygfeydd gwych megis Yr Eifl a bryngaerau o’r Oes Haearn megis Tre’r Ceiri. Ceir sawl nodwedd hanesyddol arall hefyd, fel eglwysi a chapeli, ffynhonnau sanctaidd a chromlechi. Mae diwylliant a hanes unigryw i’r ardal ac mae bron i 72% o boblogaeth y Tirwedd Cenedlaethol yn siarad Cymraeg.

155km2

o Dirwedd Ddynodedig

1957

oedd y flwyddyn y cafodd ei dynodi

6,108

o boblogaeth breswyl

22

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

135km

o arfordir

500,000

o ymwelwyr bob blwyddyn

561m

yw ei uchder yn y man uchaf

1

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

88km

o Arfordir Treftadaeth

55

o Henebion Cofrestredig

242

o Adeiladau Rhestredig

3

o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig