Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr
Dynodwyd Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr yn 1956, sef yr un gyntaf yn y DU, er mwyn cydnabod arfordir creigiog trawiadol Gŵyr a’i amgylchedd naturiol rhagorol, ac am ei fod yn un o’r lleoedd olaf yn ardal ddiwydiannol de Cymru i feddu ar harddwch naturiol heb ei ddifetha. Mae golygfeydd godidog ac amrywiol Gŵyr yn amrywio o dwyni brau a morfeydd heli yn y gogledd i glogwyni calchfaen trawiadol ar hyd arfordir y de, a thraethau tywod eang rhyngddynt. Ym mherfedd y penrhyn, mae bryniau Cefn Bryn a Mynydd Rhosili yn edrych dros dirwedd o gaeau bach traddodiadol, cymoedd coediog a thiroedd comin agored. Mae Gŵyr yn denu syrffwyr a phob math o bobl sy’n dwlu ar draethau, ynghyd â cherddwyr, dringwyr a beicwyr. Mae hefyd yn ardal ffermio draddodiadol lle mae ffermydd teuluol yn tyfu amrywiaeth o gnydau a ffrwythau ac yn pori defaid a gwartheg ar y tir comin.
188km2
o Dirwedd Ddynodedig
1956
oedd y flwyddyn y cafodd ei dynodi
15,800
o boblogaeth breswyl
26
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
70km
o arfordir
2.2 miliwn
o ymwelwyr bob blwyddyn
193m
yw ei uchder yn y man uchaf
3
Gwarchodfa Natur Genedlaethol
59km
o Arfordir Treftadaeth
20
o Gynefinoedd Blaenoriaeth
4.8km
yw hyd y traeth hiraf
5
o draethau Baner Las