Parc Cenedlaethol Eryri

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dirwedd o harddwch eithriadol – o fynyddoedd creigiog a rhostiroedd heddychlon, i geunentydd llaith gwyrddion yn agor allan i ehangder aberoedd euraidd. Mae’r dirwedd yn frith o olion yr oesoedd a fu – o gestyll, bryngaerau a phontydd hynafol i domenni llechi, mwyngloddiau a rheilffyrdd – oll yn dyst i orffennol lliwgar Eryri ac yn sail i’n treftadaeth ddiwylliannol unigryw. Ond mae mwy i harddwch Eryri na’r hyn sydd ar yr wyneb. Mae harddwch i’r cymunedau byw sy’n gartref a gweithle ers cenedlaethau, lle mae bywiogrwydd yr iaith Gymraeg i’w chlywed ym mhob pentref a thref, ac yn famiaith i’r hen a’r ifanc. Nid yw’n syndod felly, bod Eryri a’i hamrywiaeth gyfoethog o ddiwylliant a thirwedd yn cael ei harddel fel un o un o ardaloedd mwyaf rhyfeddol y byd.

2,176km2

o Dirwedd Ddynodedig

1951

oedd y flwyddyn y cafodd ei dynodi

25,700

o boblogaeth breswyl

73%

ohono mewn perchnogaeth breifat

60km

o arfordir

4 miliwn

o ymwelwyr bob blwyddyn

1,085m

yw ei uchder yn y man uchaf

700km

o afonydd

9

cadwyn o fynyddoedd

7km

yw hyd y traeth hiraf

2,411km

o lwybrau troed

110km2

o goetiroedd brodorol