Tyrau
Archwilio tyrau lleol, gan gymryd nodiadau a mesuriadau ac ymchwilio i ddarganfod mwy amdanynt. Darganfod pa mor hir fyddai tŵr pe byddai wedi’i osod yn fflat ar y ddaear a chreu taflen i annog ymwelwyr. Ystyried tyrau enwog, beth yw daeargryn a sut y gallai effeithio ar dyrau o’r fath. Cyrchu data ar ddaeargrynfeydd a fideo sy’n dangos sut mae daeargryn yn digwydd. Adeiladu model o’r tŵr uchaf sy’n gallu gwrthsefyll ‘daeargryn’ a rhoi prawf ar eu model.