Sut y gallwn ni groesawu eraill i’n byd?
Y Celfyddydau Mynegiannol Iechyd a Lles Y Dyniaethau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu Mathemateg a Rhifedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ystyried twristiaeth a chreu troslais ar gyfer fideo twristiaeth. Darganfod pam mae pobl yn ymweld â Chymru ac archwilio sut mae twristiaeth yn effeithio ar Gymru a’r bobl sy’n byw yno. Ymholi data ynghylch niferoedd twristiaid ac atyniadau ac ystyried manteision ac anfanteision y cynnydd yn nifer y twristiaid. Archwilio’r ardal leol er mwyn darganfod atyniadau twristiaeth a’i nodweddion allweddol a’i rhinweddau arbennig. Creu poster a chlip fideo i hyrwyddo twristiaeth gyfrifol yn yr ardal leol.