Beth allwn ni ei wneud am sbwriel?
Archwilio beth sy’n digwydd i’r pethau rydym yn eu taflu i ffwrdd, y defnyddiau y gellir eu hailgylchu ac annog eraill i leihau’r gwastraff sydd mewn pecynnau bwyd. Cynnal arolwg sbwriel, ystyried faint o amser y mae defnyddiau’n ei gymryd i bydru a defnyddio’r wybodaeth i helpu lleihau sbwriel yn lleol. Mae dysgwyr yn ystyried y rhan y maent yn ei chwarae wrth ddefnyddio pethau a’r hyn y maent yn ei daflu ymaith, ac yn archwilio sut y gall cyfraniad bach gael mwy o effaith pan eu bod yn rhan o ymgais ar y cyd.