Datganiad Gwybodaeth am Hawlfraint a Nacáu Cyfrifoldeb
Mae’r Ymwadiad hwn yn berthnasol i gynnwys a holl ffeiliau a gyhoeddir ar Tirlun.
Oni bai y nodir yn wahanol, Tirlun sydd berchen hawlfraint yr holl wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon, ac ni cheir ei hatgynhyrchu heb ganiatâd ymlaen llaw. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth ar y tudalennau hyn, ond yn naturiol y mae eu cynnwys yn agored i newidiadau. Ceidw'r Tirlun yr hawl i wneud newidiadau i’r wefan heb unrhyw rybudd. Ni ellir dal y Tirlun ynatebol mewn unrhyw amgylchiadau am niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n deillio o ddefnyddio'r wybodaeth ar y tudalennau hyn.
Gwefannau Allanol
Y mae'r wefan hon yn cynnwys cysylltiadau i wefannau allanol, a gwnaed rhai ohonynt gyda chaniatâd perchnogion y safle allanol. Nid yw’r Tirlun yn gyfrifol am gynnwys nac ansawdd deunydd ar wefannau o'r fath nac ychwaith yn gyfrifol am sicrhau bod y deunydd ar gael. Ni ddylid cymryd bod cyswllt â safle allanol yn golygu bod Tirlun yn gefnogol i safbwyntiau a fynegir neu wasanaethau a gynigir gan y safleoedd hynny.
Beth yw Cwcis?
Darn bach o wybodaeth yw 'cwci' ar ffurf ffeil destun, sy'n cael ei hanfon gan weinydd gwe a'i storio ar gyfrifiadur y sawl sy'n ymweld â gwefan. Gall y gweinydd wedyn ei ddarllen yn ôl yn nes ymlaen pan fo angen. Mae defnyddio cwci yn ffordd gyfleus i'r cyfrifiadur gofio gwybodaeth benodol sy'n gysylltiedig â gwefan.
Trydydd Parti
Google Analytics
Mae Tirlun yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ar y nifer o ymweliadau sydd i’w gwefannau. Mae Google Analytics yn defnyddio Cwcis sydd yn storio gwybodaeth am sut a ble mae’r ymwelydd wedi dod o hyd i’r safle. Mae Google Analytics hefyd yn nodi sawl ymweliad sydd wedi bod gan bob ymwelydd, a hefyd amser yr ymweliadau. Mae hefyd yn nodi am ba mor hir mae’r ymwelydd yn ymweld â’r safle. Mae casglu’r wybodaeth yma yn galluogi Tirlun i wneud dadansoddiad o ddefnyddwyr Tirlun ac yn sgil hynny teilwra neu ddatblygu cynnwys ein gwefannau i’r defnyddwyr. Polisi Preifatrwydd Google