Ewch yn ôl i'r hafan Ewch yn ôl i'r hafan
  • Cartref
  • Archwilio
  • Ynglŷn â Tirlun
  • Gweithgareddau
  • Astudiaethau Achos
  • Dolenni defnyddiol
  • English

Astudiaethau Achos

Astudiaethau achos

Daw'r astudiaethau achos hyn gan ysgolion a dreialodd y gweithgareddau cyntaf wrth iddynt gael eu datblygu.


Maent yn enghreifftio sut yr addasodd ysgolion y gweithgareddau i gyfoethogi teithiau eu dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben. Hefyd, fe wnaeth rhai ysgolion addasu gweithgareddau i fod yn fwy perthnasol i'w hardal leol a'u cyd-destun, ac i sefydlu'n glir pam roedd y dysgu o bwys i'w plant a'u pobl ifanc.


Dechreuodd pob un gyda chynllunio cwricwlwm ar y cyd, fel arfer ar draws grwpiau blwyddyn, er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau i’w defnyddio, pa addasiadau i’w gwneud, pryd a sut orau i’w defnyddio i gefnogi cynnydd unigolion a chydlyniad ar draws eu cwricwlwm.


Wrth edrych ar yr astudiaethau achos hyn, myfyriwch ar sut y gallech chi ddefnyddio Tirlun i ddiwallu anghenion eich dysgwyr.

Crwydro'r Preselau - Image

Crwydro'r Preselau

Defnyddiodd yr ysgol y gweithgaredd ar Tirlun i ddechrau. Fodd bynnag, roedd y dysgwyr am ddarganfod mwy am atyniad i dwristiaid yn lleol, sef Pentref Oes Haearn Castell Henllys.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Pa lwybr y gallwn ni ei ddatblygu? - Image

Pa lwybr y gallwn ni ei ddatblygu?

Archwiliodd dysgwyr Blynyddoedd 4, 5 a 6 y gweithgaredd hwn yn yr ysgol. Roedd pob dysgwr yn gweithio o fewn Cam cynnydd 3.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut ydyn ni'n defnyddio egni? - Image

Sut ydyn ni'n defnyddio egni?

Bu ysgol yng ngogledd Cymru yn archwilio egni a grymoedd gyda dysgwyr oedd yn gweithio o fewn Camau cynnydd 2 a 3. Dilynwyd y gweithgaredd hwn trwy wneud rhai tasgau oedd wedi cael eu haddasu i gyd-fynd â diddordebau a datblygiadau lleol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Beth yw llygredd? - Image

Beth yw llygredd?

Defnyddiodd yr ysgol y gweithgaredd ar Tirlun, ond fe’i hategwyd gan waith ar raddfeydd mapiau er enghraifft, yn ogystal ag edrych ar faterion byd-eang trwy lens y Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC).

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut mae Cymru wedi ysbrydoli pobl? - Image

Sut mae Cymru wedi ysbrydoli pobl?

Roedd yr ysgol yn ardal Ystradgynlais yn annog dysgwyr i archwilio beth mae ‘cynefin’yn ei olygu iddyn nhw a sut mae artistiaid yn gwneud defnydd o hyn yn eu gwaith. Roedd y gweithgaredd allweddol hwn yn cefnogi’r dosbarth yn eu hastudiaethau ac yn helpu’r athrawon i strwythuro’r gweithgareddau a gyflawnwyd gan y dysgwyr.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Mythau a chwedlau - Image

Mythau a chwedlau

Defnyddiodd y ddau ddosbarth Blwyddyn 6 yn yr ysgol y Gweithgaredd Allweddol ‘Mythau a Chwedlau’ ar Tirlun i ategu eu thema trawsgwricwlaidd, gan archwilio mythau o fewn ac o amgylch Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Pa benderfyniadau fyddech chi’n eu gwneud fel arweinydd yn y byd? - Image

Pa benderfyniadau fyddech chi’n eu gwneud fel arweinydd yn y byd?

Mwynhaodd y dysgwyr gaffael gwell dealltwriaeth o’r termau ‘cynaliadwyedd’ a ‘datblygiad cynaliadwy’. Roedd gan y rhan fwyaf afael dda ar y termau hyn a gallent eu defnyddio’n gywir wrth siarad.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut mae gwahanol ardaloedd yn cael eu hadfywio? - Image

Sut mae gwahanol ardaloedd yn cael eu hadfywio?

Penderfynodd yr ysgol ddefnyddio’r gweithgaredd hwn dros dymor cyfan. Roedd y dysgwyr wedi ymgysylltu’n nodedig o dda â’r fideo agoriadol – ‘What If All Humans Suddenly Disappeared From The Earth?’ Oherwydd hyn, fe wnaeth yr athro ymestyn eu dysgu trwy gynnal cyfres o ymholiadau ‘Beth petai…?’ ar sail meddyliau o’r fideo, er enghraifft – ‘Beth petai’r holl blanhigion yn marw?’ a ‘Beth petai pawb yn troi’n fegan?’ a ‘Beth petai’r Ddaear yn peidio â throi?’.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut mae gwahanol ardaloedd yn cael eu hadfywio? - Image

Sut mae gwahanol ardaloedd yn cael eu hadfywio?

Defnyddiwyd y gweithgaredd ar Tirlun gan ddysgwyr Blwyddyn 6 fel sail i archwilio hanes yr ysgol ac ardal Bae Caerdydd. Penderfynodd y dysgwyr siarad â ffrindiau a theulu, cysylltu â’r cyngor ac ymchwilio ar y rhyngrwyd. Buont hefyd yn chwilio am gliwiau ar yr adeilad ac ar dir yr ysgol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut y gallwn ni warchod bioamrywiaeth? - Image

Sut y gallwn ni warchod bioamrywiaeth?

Bu’r dysgwyr sydd yn gweithio ar Gam cynnydd 3 yn ymchwilio i ystyr ‘bioamrywiaeth’ cyn iddynt asesu bioamrywiaeth tiroedd eu hysgol. Roedd yr athro wedi dod o hyd i’r rhaglen The National Education Nature Park programme a gynhyrchwyd gan yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut y gallwn ni warchod bioamrywiaeth? - Image

Sut y gallwn ni warchod bioamrywiaeth?

Mwynhaodd y dysgwyr ddysgu am fioamrywiaeth ac edrych ar dir yr ysgol am ardal wyllt yr oeddent am ei hastudio a datblygu syniadau ar gyfer sut y gellid ei gwella. Roedd yr ardal a ddewiswyd ganddynt wrth ochr y sied feiciau, sef ardal nad oedd wedi’i chyffwrdd ers blynyddoedd lawer. Fe wnaethant adnabod yr organebau a oedd yn byw yno ac edrychwyd ar y ffordd orau o amcangyfrif nifer yr organebau o wahanol rywogaethau yn yr ardal (yn ychwanegol at weithgareddau Tirlun).

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Sut y gallwn ni groesawu eraill i’n byd? - Image

Sut y gallwn ni groesawu eraill i’n byd?

Defnyddiodd yr athrawes agweddau o’r gweithgaredd ‘Sut y gallwn ni groesawu eraill i’n byd?’ fel rhagflaenydd i astudio twristiaeth mewn Daearyddiaeth TGAU.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Fforwyr ac Alldeithiau - Image

Fforwyr ac Alldeithiau

Bu ysgol yng ngogledd Cymru yn rhoi cynnig ar y gweithgaredd hwn, gyda’r dysgwyr yn gweithio o fewn Cam cynnydd 3. Fe wnaethon nhw roi cynnig ar bob un o’r tasgau yn y gweithgaredd, gan ychwanegu tasgau newydd er mwyn ymestyn a datblygu’r dysgu a chreu thema tymor cyfan a oedd wedi’i hysbrydoli gan yr adnodd.

Cliciwch yma i ddarllen mwy
Dolenni
  • Cartref
  • Archwilio
  • Ynglŷn â Tirlun
  • Gweithgareddau
  • Astudiaethau Achos
  • Dolenni defnyddiol
  • Datganiad Gwybodaeth am Hawlfraint a Nacáu Cyfrifoldeb
Tirweddau Dynodedig
  • Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  • Parc Cenedlaethol Eryri
  • Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr
  • Tirwedd Cenedlaethol Llŷn
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy
Cysylltwch â ni

Pembrokeshire Coast National Park Authority

Llanion Park

Pembroke Dock

Pembrokeshire

SA72 6DY

01646 624800
tirlun@arfordirpenfro.org.uk
Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Tirwedd Cenedlaethol Gŵyr Tirwedd Cenedlaethol Llŷn Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Parc Cenedlaethol Eryri
Logo Ariennir gan Lywodraeth Cymru Meddwl dysgu herio Lafan Tirweddau Cymru Tinint