Arolwg Ordnans (OS) - Offeryn mesur
Arolwg Ordnans (OS) - Offeryn mesur
- Cliciwch i agor y map.
- Gan ddefnyddio'r eicon + yn y gornel dde isaf, chwyddwch y map er mwyn dangos yr ardal rydych chi am ei mesur.
- Cliciwch ar y tair llinell sydd ar gefndir glas tywyll yn y gornel dde.
- Detholwch 'MEASURE' o'r gwymplen.
- Mae naidlen yn ymddangos, gan gynnig opsiynau. Detholwch yr eicon 'Measure Distance'.
- Dewiswch yr uned yr hoffech ei defnyddio o'r gwymplen.
- Cliciwch ar fan cychwyn eich mesuriad, ar y map.
- O'r man cychwyn hwn, cynhyrchir llinell wedi'i hanodi รข'r pellter.
- Wrth i chi symud y llinell, dangosir y pellter o'r man cychwyn.
- Cliciwch ar y gyrchfan. Dangosir cyfanswm y pellter.
- Ar gyfer pellteroedd lle mae angen defnyddio nifer o fesuriadau, e.e. ar ffordd droellog, gallwch glicio ar sawl man stopio ac yna parhau i dynnu'r llinell. Dangosir cyfanswm y pellter i'ch cyrchfan derfynol, yn y gyrchfan honno.