CROESO I TIRLUN
Mae Tirlun yn borth o brofiadau dysgu yn yr awyr agored, gyda gweithgareddau sy’n gallu mynd â’r dysgwr o’u hysgol i’r ardal leol ac i Dirweddau Dynodedig Cymru a thu hwnt.
Nod y profiadau yw gwreiddio dysgu yn yr awyr agored mewn modd dilys a phwrpasol. Mae’r gweithgareddau wedi’u cynllunio i gael eu defnyddio’n hyblyg er mwyn cyfoethogi teithiau dysgwyr i’w galluogi i gyflawni’r pedwar diben, gan sicrhau bod anghenion a diddordebau dysgwyr yn cael eu diwallu a’u haddasu i’ch ardal leol.
Mae gweithgareddau allweddol wedi'u cynllunio i'w defnyddio ble bynnag yr ydych chi ac maent yn hawdd eu haddasu i'ch ardal leol. Gellir cyrchu gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â phob un o’r Tirweddau Dynodedig, o'r map. Mae'n hawdd addasu'r rhain hefyd ar gyfer unrhyw ardal o Gymru.
Dewiswch un o’r Parciau Cenedlaethol neu un o’r Tirweddau Cenedlaethol er mwyn archwilio’r Dirwedd Ddynodedig hon a chyrchu’r gweithgareddau.
Mae Parciau Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol yn cynnwys rhai o’r ardaloedd cefn gwlad mwyaf prydferth, ysblennydd a dramatig yng Nghymru. Mae miliynau o ymwelwyr yn mwynhau eu rhinweddau arbennig bob blwyddyn.
Os ydy’r Tirweddau Dynodedig yn newydd i chi, beth am roi cynnig ar y gweithgaredd hwn, a fydd yn eich helpu i ddysgu mwy amdanynt?