Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn
Mae Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yn ddynodiad arfordirol gan fwyaf, gan gynnwys penrhynau creigiog a thraethau tywodlyd eang yn y gogledd, tra yn y de gwelir twyni tywod sy’n ymestyn draw at Fae Aberffraw ac Abermenai. Mae canrifoedd o ryngweithio dynol wedi dylanwadu ar y gefnwlad. Ymysg patrwm clytwaith y caeau sydd wedi eu rhannu gan waliau cerrig a gwrychoedd traddodiadol, mae siambrau claddu o’r Oes Efydd, meini hirion ac olion cytiau crynion o’r Oes Haearn. Mae ardaloedd awyr dywyll Ynys Môn wedi dod yn fwyfwy poblogaidd gan bobl sy’n hoff o wylio’r sêr, ac fe’u cydnabyddir yn ardaloedd o bwys ar gyfer gwneud hyn. Mae Uned Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yn cydweithio â Pharc Cenedlaethol Eryri a Thirweddau Cenedlaethol Gogledd Cymru, er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r angen i ddiogelu eu hawyr dywyll. Gwneir hynny drwy gyfranogiad cymunedol ac ymgysylltu â’r cymunedau hyn.
221km2
o Dirwedd Ddynodedig
1966
oedd y flwyddyn y cafodd ei dynodi
15,614
o boblogaeth breswyl
32
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
201km
o arfordir
2 miliwn
o ymwelwyr bob blwyddyn
220m
yw ei uchder yn y man uchaf
1
Gwarchodfa Natur Genedlaethol
50km
o Arfordir Treftadaeth
75
o Henebion Cofrestredig
565
o Adeiladau Rhestredig
5
o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig