Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy
Mae Tirwedd Cenedlaethol Dyffryn Gwy yn cael ei hystyried yn un o’r tirweddau iseldir gorau ym Mhrydain. Fe’i dynodwyd yn Dirwedd Cenedlaethol ym 1971, er mwyn diogelu ei nodweddion arbennig, sy’n cynnwys ceunentydd calchfaen dramatig a choetiroedd brodorol, daeareg drawiadol, bywyd gwyllt cyfoethog a chyfoeth o hanes sy’n cynnwys bryngaerau, cestyll a’r Abaty Sistersaidd cyntaf yng Nghymru. Yn ganolog i’r cyfan mae’r afon Gwy, un o’r afonydd mwyaf naturiol ym Mhrydain, sy’n ymdroelli’n fawreddog trwy ffiniau Cymru a Lloegr.
326km2
o Dirwedd Ddynodedig
1971
oedd y flwyddyn y cafodd ei dynodi
29,300
o boblogaeth breswyl
21
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
27%
yn goetir
2.2 miliwn
o ymwelwyr bob blwyddyn
311m
yw ei uchder yn y man uchaf
4
Gwarchodfa Natur Genedlaethol
10
o Gynefinoedd Blaenoriaeth
83
o Henebion Cofrestredig
915
o Adeiladau Rhestredig
58%
o dir amaeth